Gwybodaeth
Mae Pen Y Bont wedi ei leoli’n gyfleus, o fewn ychydig funudau mewn car oddi ar yr A55. Mae pentref Y Fali o fewn pellter cerdded gyda chanolfannau siopa, swyddfa bost, garej, ty golchi, siop trin gwallt, meddygfa a deintyddfa.
Mae gorsaf reilffordd gerllaw ac mae gwasanaeth bws rheolaidd yn mynd heibio i’r safle. Mae’r pentrefi cyfagos yn cynnwys amrywiaeth o gaffis, tafarndai a thai bwyta. Mae traethau tywodlyd a’r Llwybr Arfordirol Ynys Môn o fewn cyrraedd hawdd hefyd.
Cyfleusterau y Safle
- Awyrgylch dawel gyfeillgar mewn ardal eithriadol
- Bloc toiled / cawod
- Man gwaredu dŵr gwastraff
- Man gwaredu toiled cemegol
- Ardal o dan do i lanhau llestri
- Pwyntiau trydan
- Digon o le i barcio ceir ar bob safle
- Cyfleuster rhewgell ar gael
- Ardal ailgylchu.
- Safle bws ar waelod y lôn.
- Mynedfa i Kayaks a hwylfyrddau ar y môr.
- Ffinio ar lwybr yr arfordir.
- Storfa i garafanau.
- Croeso i gŵn
Cyfarwyddiadau i Pen y Bont
Gadewch yr A55 ar gyffordd 3 a dilynwch yr arwyddion am Y Fali. Wrth y goleuadau traffig trowch i’r chwith. Gyrrwch drwy’r pentref am un filltir (dros y groesfan rheilffordd a chylchfan bychan). Mae Pen y Bont ar yr ochr dde gyferbyn a thŷ gwyn.
OS YDYCH YN DEFNYDDIO SAT NAV PEIDIWCH A THROI I’R DDE I FYNY FFORDD ‘BRYN Y MOR’. PARHEWCH I YRRU AM ODDEUTU 600M ARALL.