01407 740 481

Croeso i Safle Carafannau a Gwersylla Pen y Bont

Mae croeso cynnes a chyfeillgar yn eich disgwyl ym Mhen y Bont, sy’n cael ei redeg gan yr un teulu ers dros 50 mlynedd.

Mae’r safle yn dilyn canllawiau COVID-19 y Llywodraeth, gan sicrhau bod prosesau ar waith i gynnal glanweithdra a chynorthwyo pellter cymdeithasol/corfforol.

Mae’r safle yn ffinio gyda’r môr sy’n gwahanu Ynys Môn ag Ynys Cybi ym Mhont Rhyd y Bont ac mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol sydd yn gartref i amrywiaeth o adar gan gynnwys elyrch a gwyddau a blodau gwyllt. Gellir uno a llwybyr yr arfordir yn union o’r safle ble gallwch gerdded gyda’ch ci gan fwynhau’r golygfeydd hardd dros y Lasinwen a draw tuag at Ynys Cybi a Mynydd Twr.

Mae’n hwylus ar gyfer nifer o weithgareddau sy’n amrywio o deithiau cerdded a beicio ar hyd ffyrdd cul a throellog yr ynys, i syrffio, padlfyrddio a caiacio yn y môr cyfagos . Mae hefyd yn fan perffaith ar gyfer pysgota.

Beth well ar ddiwedd y dydd nag ymlacio mewn awyrgylch heddychlon gyda gwydriad o wîn a llyfr da a gwylio’r haul yn machlud dros Fynydd Twr.

Mae croeso bob amser i gŵn dan reolaeth .

Rydym ar agor o Ebrill 1af - Diwedd Mis Medi

Edrychwn ymlaen i’ch croesawu. Olwen a Robyn Williams a’r Teulu.

Cyfarwyddiadau i Safle Carafannau Pen y Bont

Gadewch yr A55 ar gyffordd 3 a dilynwch yr arwyddion am Y Fali. Wrth y goleuadau traffig trowch i’r chwith. Gyrrwch drwy’r pentref am un filltir (dros y groesfan rheilffordd a chylchfan bychan). Mae Pen y Bont ar yr ochr dde gyferbyn a thŷ gwyn.

OS YDYCH YN DEFNYDDIO SAT NAV PEIDIWCH A THROI I’R DDE I FYNY FFORDD ‘BRYN Y MOR’. PARHEWCH I YRRU AM ODDEUTU 600M ARALL.